GŴYL FFILM WOW
FFILMIAU
Universal Language (12A)
Cyfarwyddwr: Matthew Rankin
Canada, 2024, 89', Farsi gydag isdeitlau Saesneg
Premiere Cymreig
A hithau wedi cyrraedd rhestr fer y Ffilm Nodwedd Ryngwladol Orau yng Ngwobrau’r Academi 2025, mae hon yn gomedi hynod, drawsddiwylliannol lle mae Tehran yn cwrdd â Winnipeg mewn archwiliad swreal o amser, gofod, a hunaniaeth. Gyda dylanwadau gan Abbas Kiarostami a Guy Maddin, mae’r cyfarwyddwr Matthew Rankin yn cyflwyno naratif mympwyol yn llawn camgyfeirio a hiwmor sych. Mae chwilio am arian cudd yn cydblethu â chymeriadau ecsentrig - fel tywysydd teithiau dryslyd a gwas sifil dadrithiedig. Yn llawn abswrdiaeth hyfryd, mae’r ffilm yn pylu’r ffiniau’n gelfydd, gan brofi bod y cysylltiadau mwyaf dwys weithiau’n dod o’r mannau mwyaf rhyfedd. Dyma i chi ddathliad doniol, chwerwfelys o undod dynol, wedi'i lapio mewn hud byd ffilmiau.
'Doggedly eccentric' - Screen International
🏆Enillydd Gwobr Cynulleidfa Pythefnos y Cyfarwyddwyr - 77ain Gŵyl Ffilm Cannes
🏆Enillydd Golden Alexander, Cystadleuaeth Ffilm Ymlaen - 65ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Thessaloniki
🏆Gwobr Darganfod Gorau Canada - 49ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto