top of page
header 2025-04.png

GŴYL  FFILM WOW
FFILMIAU

The Teacher (12A) + Q&A

Cyfarwyddwr: Farah Nabulsi
DU/Palestina, 2023, 118', Saesneg, Arabeg gydag isdeitlau Saesneg

Premiere Cymreig

Mae’r athro o Balesteina, Basem El-Saleh (Saleh Bakri), wedi’i rwygo rhwng ei orffennol fel radical a’i bresennol fel hyrwyddwr dulliau di-drais. Ac yntau’n byw yng nghanol y Lan Orllewinol, mae’n wynebu realiti creulon meddiannaeth wrth i’w fyfyriwr Adam, wedi’i ysgogi gan golled a chynddaredd, geisio dial yn dilyn ymosodiad gan setlwyr. Gyda'r sefyllfa’n dwysáu, mae ymrwymiad Basem i heddwch yn cael ei roi ar brawf wrth iddo ffurfio cwlwm gyda gwirfoddolwr o Brydain, Lisa (Imogen Poots). Stori bwerus, dorcalonnus sy'n gwneud i frwydrau Palesteina deimlo'n hynod real, mae The Teacher yn archwiliad gafaelgar o wrthwynebiad, cariad, a'r frwydr dros gyfiawnder.

Bydd y dangosiad ffilm yn cael ei ddilyn gan Holi ac Ateb Zoom gyda'r cyfarwyddwr.

'Gripping and full of tension, The Teacher not only makes for a wonderful cinematic experience, but poses some all-important questions the wider world has seemingly avoided answering for too long.' - Little White Lies

🏆Enillydd Gwobr Rheithgor am y Ffilm Nodwedd Orau + Enillydd yr Actor Gorau - Gŵyl Ffilm Ryngwladol y Môr Coch 2023

⭐Detholiad Swyddogol - Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto 2023

The Teacher Still 1.jpg
bottom of page