top of page
header 2025-04.png

GŴYL  FFILM WOW
FFILMIAU

Satu - Year of the Rabbit (12A) + Live Q&A

Cyfarwyddwr: Joshua Trigg
DU, Laos, 2024, 93' Lao gydag isdeitlau Saesneg (ID)

Premiere Cymreig

Ynghanol tirweddau gwyllt Laos, mae bom yn gorfodi Satu, plentyn a llafurwr gwydn, i ffoi o'i bentref. Gyda Bo, ffotonewyddiadurwr tosturiol, yn gwmni iddo, mae'n teithio tua'r gogledd i ddod o hyd i'w fam goll. Wedi'i saethu ar ffilm oleuol 16mm yn ystod y pandemig, mae'r ffilm deithio dwymgalon hon yn cyfuno goroesi a gobaith, gan ddathlu talent leol a harddwch bywiog De-ddwyrain Asia. Mae’r ffilm Satu yn cyfleu ysbryd dyfalbarhad yn wyneb rhwystrau llethol, gan adlewyrchu heriau a hefyd gwobrau ei thaith gynhyrchu ryfeddol. Ffilm a 'Made in Wales' gan Joshua Trigg.

Bydd y dangosiad yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb byw gyda chyfarwyddwr y ffilm.

'Trigg beautifully captures the beauty and simplicity of Laos.' - Film Threat

⭐ Gwobr Golden Shika am y Ffilm Orau - Gŵyl Ffilm Ryngwladol Nara 2024
⭐ Enwebai Gwobr Maverick - 2024 Gwobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA) 

⭐ Ar restr fer Medal Gandhi UNESCO - Gŵyl Ffilm Ryngwladol India 2024

Satu-3.jpg
bottom of page