top of page
banner.png

GŴYL  FFILM WOW
GWNAED YNG NGHYMRU

Mae Rhaglen Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Gŵyl Ffilm WOW 2025 yn daith sinematig 94 munud hudolus sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau a safbwyntiau. Mae’r casgliad bywiog hwn yn arddangos naw ffilm fer ryfeddol gan grewyr gweledigaethol ar draws y byd. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl adrodd straeon pwerus a disgleirdeb artistig gan wledydd fel Periw, Irac, Pacistan, Tsieina, Indonesia, a Chile, gan gynnwys ffilm animeiddiedig o'r DU sy'n ymroddedig i holl blant Gaza.

Indai_Apai_Darah_key_image_8.jpg

Indai Apai Darah

Kynan Tegar, Indonesia, 2024, 14'55'', Iban gydag isdeitlau Saesneg

Mae merch ifanc sy'n cael ei magu yng nghoedwigoedd brodorol canolbarth Borneo yn dilyn cysylltiadau hynafol er mwyn ennill stori fel anrheg- brwydr ei Phobl ym 1973 i warchod eu tiroedd ymysg datgoedwigo rhemp.
 

molokhiya.jpg

Molokhiya

Habiba Hassaan, UDA, 2024, 2'34'', Arabeg gydag isdeitlau Saesneg

A hithau wedi’i dal mewn corwynt o ansicrwydd, mae gwraig o’r Aifft yn mynd ar daith i ailgysylltu â’i gwreiddiau.
 

hard boiled eggs.jpg

Hard Boiled Eggs

Yi Meng, UDA, 2024, 13', Tsieinëeg gydag isdeitlau Saesneg

 

Mae Yu, merch Americanaidd Tsieineaidd 10 oed, yn casáu wyau wedi'u berwi'n galed, yn rhannol oherwydd bod ei mam yn gwneud iddi eu bwyta fel y brecwast gorfodol. Pan mae’n dechrau amau anffyddlondeb ei mam, mae'n rhuthro i ymchwilio; ond mae realiti llymach yn ei disgwyl.
 

 

i walk while glaciers melt.jpg

I Walk While Glaciers Melt

Lucia Lambarri Barberis, Periw, 2024, 9', Saesneg, Cetshwa, Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

 

Mae cyfuniad o animeiddio ac actio byw yn archwilio tirweddau, defodau a thrawsnewidiad yr Andes, gan gwestiynu moderniaeth a'n lle mewn oes o rewlifoedd yn toddi.
 

don_t be late myra.jpg

Don't be late, Myra

Afia Serena Nathaniel, Pacistan, 2024, 15', Wrdw gydag isdeitlau Saesneg

Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn yn Lahore, rhaid i Myra, sy’n 10 oed, ddod o hyd i’w ffordd adref ar ôl colli ei fan ysgol. Mae'r ffilm gyffro fer yn cymryd tro tywyll wrth i Myra orfod osgoi dynion sy'n ei haflonyddu ar y strydoedd.
 

two less.jpg

Two Less

Taroa Zuñiga Silva, Carlos Zerpa, Chile, 2024, 8', Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg

Mae dwy fenyw fudol, Joanne a Beatriz, yn adrodd am eu bywydau, eu breuddwydion, a'u marwolaethau yng nghyfundrefn ormesol Chile. A oes unrhyw beth wedi newid mewn 44 mlynedd?
 

dear child II.jpg

Dear Child II

Devin Peters, y DU, 2024, 9'33', Saesneg 

A hithau wedi’i hysgrifennu fel llythyr at blentyn yn Gaza gan yr awdur gwobrwyedig Pullitzer Chris Hedges, mae hon yn daith deimladwy a realistig drwy Gaza yr oes sydd ohoni o safbwynt plentyn, wedi’i thrwytho ag euogrwydd newyddiadurwr tramor sy’n codi uwchlaw’r sgrin.
 

talisman.jpg

Talisman 

Karar Hayder, Irac, 2024, 7'45'', Arabeg gydag isdeitlau Saesneg

Yn ei hymgais olaf, mae'r ferch wledig Sabreen yn ceisio cael talismon a fydd yn rhoi’r gallu iddi feichiogi, er mwyn cadw ei phriodas Iracaidd draddodiadol.
 

a summer_s end poem.jpg

A Summer's End Poem

Lam Can-zhao, Tsieina/y Swistir/Malaysia, 2024, 15', Tsieineaidd, Min Nan gydag isdeitlau Saesneg

Ychydig cyn diwedd gwyliau’r haf, mae bachgen cefn gwlad yn gwario ei gynilion ar ei freuddwyd, sef cael steil gwallt y ddinas – gyda chanlyniadau syfrdanol. Stori am ffarwelio â phlentyndod a diwedd barddonol yr haf.
 

bottom of page