top of page
header 2025-04.png

GŴYL  FFILM WOW
FFILMIAU

Hakki (15) + Live Q&A

Cyfarwyddwr: Hikmet Kerem Ozcan
Twrci, 2024, 95', Twrceg gydag isdeitlau Saesneg

 

Premiere DU

Mewn pentref hardd Aegeaidd, mae Hakkı sy’n ganol oed yn brwydro i gadw i fyny â'r diwydiant twristiaeth cynyddol, gan ddibynnu ar werthu cerfluniau a theithiau tywys. Pan mae’n darganfod arteffact hanesyddol gwerthfawr yn ei ardd ac yn ei werthu am ffracsiwn o’i werth, mae awydd Hakkı am gyfoeth yn cael ei danio. Ac yntau ag obsesiwn â dod o hyd i ragor o drysorau, mae'n cloddio'n ddiflino, gan aberthu ei amser, ei deulu a'i bwyll. Wrth i’w obsesiwn ddwysáu, mae Hakkı’n dechrau troedio llwybr peryglus, ac mae ei ysfa am wneud ffortiwn yn bygwth chwalu popeth sy’n annwyl iddo. Mae’r ffilm nodwedd gyntaf hon yn stori afaelgar am drachwant, obsesiwn, a phris uchelgais, gyda pherfformiad cyfareddol gan Bulent Emin Yarar.

⭐ Enwebai Golden Boll - 31ain Gŵyl Ffilm Adana

Photo 3 HakkA_stillshot2.jpg
bottom of page