GŴYL FFILM WOW
DIGWYDDIADAU
'Satu: Year of the Rabbit' + Holi ac Ateb y Cyfarwyddwr
Dyddiad ac Amser:
Pontio, 21 Mawrth, 7.15pm
Yr Egin, 24 Mawrth, 7pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 4 Ebrill, 5.30pm
Mae’n bleser gennym groesawu’r cyfarwyddwr Joshua Trigg i drafod ei ffilm nodwedd wobrwyedig Satu - Year Of The Rabbit gyda ni, ac i gymryd unrhyw gwestiynau sydd gan gynulleidfa WOW.
Bywgraffiad y Siaradwr:
Ac yntau wedi’i eni yn Llundain ym 1988 a'i fagu ym mynyddoedd De Cymru, dechreuodd Joshua Trigg wneud ffilmiau yn 8 oed, gan grefftio ffilmiau rhyfel a ffilmiau byrion gorllewinol gyda'i ffrindiau. Ar ôl astudio ffilm, lansiodd ei gwmni cynhyrchu tra’n byw mewn cwpwrdd mewn siop gitârs yn Soho, gan fireinio ei grefft yn ardal ffilmiau Llundain. Dros y degawd diwethaf, mae wedi gweithio ar draws Asia gyda chleientiaid mawr fel Singapore Airlines a The Rolling Stones. Mae ei ffilm nodwedd gyntaf sy’n gymwys ar gyfer BAFTA, Satu: Year of the Rabbit, yn garreg filltir yn ei yrfa ac mae wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys y Sgript Ddramatig Wreiddiol Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Houston.
'Rave on For the Avon' + Holi ac Ateb y Cyfarwyddwr
Dyddiad ac Amser:
Yr Egin, 25 Mawrth, 11yb
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 30 Mawrth, 5pm
Ymunwch â ni am sgwrs gyda chyfarwyddwr Rave On For The Avon, Charlotte Sawyer, i ddysgu mwy am sut aeth ati i wneud ei 'joyous documentary about Bristol’s clean water campaigners' The Guardian).
Bywgraffiad y Siaradwr:
'The Teacher' + Holi ac Ateb y Cyfarwyddwr
Dyddiad ac Amser:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 28 Mawrth, 6.15pm
Theatr Gwaun, 29 Mawrth, 6.30pm
Mae’n anrhydedd i ni groesawu Farah Nabulsi, cyfarwyddwr The Teacher i ymuno â ni ar gyfer sesiwn holi ac ateb ar-lein ar ôl dangos y ffilm yn Aberystwyth ac Abergwaun.
Bywgraffiad y Siaradwr:
Gwneuthurwr ffilmiau ac eiriolwr hawliau dynol o dras Palesteina-Prydain yw Farah Nabulsi, a gafodd ei henwebu am Oscar ac sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Mae hi’n ferch i Balesteiniaid a oedd yn ddigon ffodus i ymgartrefu ym Mhrydain yn ystod y 1970au—yn wahanol i’r miliynau sy’n parhau i fod heb wladwriaeth mewn gwersylloedd ffoaduriaid. A hithau wedi'i geni, ei magu a'i haddysgu yn Llundain, dechreuodd Farah ei gyrfa fel stocbrocer ecwiti sefydliadol. Cafodd dynodiad CFA yn JP Morgan Chase cyn symud ymlaen i adeiladu busnes yn canolbwyntio ar blant, gan redeg hwn am 10 mlynedd. Yn 2015, dechreuodd weithio yn y diwydiant ffilm. Sefydlodd gwmni cynhyrchu lle mae’n ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo ffilmiau ffuglen, gan archwilio pynciau sydd o bwys iddi a chreodd adnodd digidol i ddadelfennu meddiannaeth filwrol Israel ym Mhalesteina mewn ffordd nas gwnaed erioed o’r blaen.
'All Shall Be Well': Sgwrs Gydag Aberration Cymru
Dyddiad ac Amser:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Mawrth 29, 5pm
Cynhelir y dangosiad hwn ar y cyd gydag Aberration (digwyddiadau celfyddydol a chymunedol LGBTQ+ yn Aberystwyth). Ar ôl y ffilm, bydd cyfle i sgwrsio am y themâu sydd wedi codi.
Croeso i bawb!
'Hakkı' + + Holi ac Ateb y Cyfarwyddwr
Dyddiad ac Amser:
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 2 Ebrill, 7.45pm
Bydd y Cyfarwyddwr Hikmet Kerem Özcan yn teithio’r holl ffordd o Dwrci ar gyfer Premiere y DU o'i ffilm Hakkı, ac yn ymuno â ni am sesiwn holi ac ateb fyw i siarad am ei ffilm a'i waith.
Bywgraffiad y Siaradwr:
Yn hanu o Izmir, Twrci, dechreuodd Hikmet Kerem Ozcan ar ei daith sinematig yn adran Sinema-Teledu, Prifysgol Celfyddydau Cain Mimar Sinan. Yno, dan arweiniad ffigurau enwog byd Sinema Twrci, aeth ati i fireinio ei sgiliau a meithrin ei frwdfrydedd dros wneud ffilmiau. Ac yntau wedi’i ysbrydoli gan stori blentyndod o’i bentref, mae ffilm nodwedd gyntaf Ozcan, Hakkı, yn ymchwilio i’r cydbwysedd cywrain rhwng ffortiwn a chanlyniad. O fewn y cydbwysedd hwnnw, fe aeth y cyfarwyddwr ati i archwilio sut y gall posibiliadau bywyd drawsnewid ffawd yn gyflym, er gwell neu er gwaeth. Wedi'i ysgogi gan awydd i fynd i’r afael â’r thema ddwys hon, creodd Ozcan Hakkı fel archwiliad sinematig o'r cydbwysedd cain rhwng cyfle a pherygl.
'The Walk' + + Holi ac Ateb y Cynhyrchydd
Dyddiad ac Amser:
Yr Egin, 24 Mawrth, 5pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 3 Ebrill, 5.30pm
Yn dilyn dangos The Walk yn Aberystwyth a Chaerfyrddin cynhelir sesiwn holi ac ateb gyda chynhyrchydd Cymreig y ffilm, Harri Grace.
Bywgraffiad y Siaradwr:
Mae’r cynhyrchydd gwobrwyedig Harri Grace yn gweithio ym meysydd rhaglenni dogfen a ffuglen, ac yn arbenigo mewn adrodd straeon cymhleth sy’n deillio o rai o’r amgylcheddau mwyaf heriol y mae Grain Media yn gweithio ynddynt. Mae ei waith diweddar yn cynnwys y rhaglen ddogfen nodwedd Convergence: Courage, In A Crisis ar gyfer Netflix, yn ogystal â Lost and Found ac Into the Fire.
Ffilmiau Byrion 'Made in Wales':
a Sgwrs gyda’r Gwneuthurwyr Ffilmiau
Dyddiad ac Amser:
Yr Egin, 24 Mawrth, 5pm
Theatr Gwaun, 29 Mawrth, 4pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 3 Ebrill, 2.30pm
Dewch i wylio rhai o'r ffilmiau byrion 'Made in Wales' gorau oll gan wneuthurwyr ffilmiau dawnus Cymreig/sy’n byw yng Nghymru ac arhoswch am sgwrs fach gyda nhw ar ôl i’w ffilmiau cael eu dangos.
'The Waste Commons' + a Thrafodaeth Ford Gron
Dyddiad ac Amser:
Pontio, 21 Mawrth, 5.30pm
The screening of The Waste Commons will be will be introduced by Dr Armelle Blin-Rolland (Lecturer in Francophone Studies and lead of the project 'Greening Modern Languages'). After the screening, a post-film roundtable by Bangor University researchers in Modern Languages and Cultures will follow, as part of the module 'Languages and Ecologies'.
All welcome!
Speakers' Bios:
-
Dr Silvia Bergamini is a Lecturer in Italian Studies, specialist in Southern Italian Studies and waste disposal cultures in Naples.
-
Dr Armelle Blin-Rolland is a Lecturer in Francophone Studies and Lead of 'Greening Modern Languages', a collaborative project that rethinks the role of Modern Languages research and teaching in developing ecological citizenship.
-
Professor Helena Miguélez-Carballeira is a Professor in Hispanic Studies and editor of Postcolonial Spain: Coloniality, Violence, Independence (University of Wales Press, 2024).
-
Dr Sarah Pogoda is a Senior Lecturer in German Studies and specialist in socially engaged art in Wales.