Dydd Sadwrn 21ain Mawrth, 10am - 5pm
Mae Abercon yn gonfensiwn animeiddio sy’n hygyrch i bawb!
Gwyliwch animeiddiadau anhygoel, porwch y stondinau, ymunwch â gweithdai animeiddio a gwnewch fasgiau, neu gwisgwch a chymerwch ran yn y gystadleuaeth cosplay.
Thema eleni yw “trawsnewidiadau” - yn Abercon mae croeso i bawb a gallwch chi fod pwy bynnag a fynnwch.
Rhowch gynnig ar wneud eich animeiddiadau eich hun yn y gweithdy galw heibio ar ôl y ffilmiau. Gweithdai yn rhedeg trwy'r dydd.
Stondinau a Gweithdai: 10am - 5pm - AM DDIM
11am: Foxy Shorts (PG) - AM DDIM
1.30PM Cosplay Masquerade
2.30pm: Pom Poko (PG) - CYNNIG TOCYN GRWP AR GAEL
Yn falch o fod mewn partneriaeth â Mencap Ceredigion.