Yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, rydym wedi penderfynu gohirio Gŵyl Ffilm WOW. Ni fydd unrhyw un o'r dangosiadau a'r digwyddiadau sydd ar y gweill dros y mis nesaf yn digwydd. Bydd gan unrhyw un sydd wedi prynu tocyn ymlaen llaw hawl i gael ad-daliad llawn.
Mae hyn yn teimlo fel y peth cyfrifol i'w wneud gan ein bod yn credu mai'r rhesymeg hollgyffredinol yw cyfyngu cyswllt cymdeithasol yn ystod pandemig. Rydym yn gobeithio mai dim ond gohirio yw hwn ac y gallwn redeg yr ŵyl yn nes ymlaen. Fodd bynnag, mae cymaint o bethau anhysbys ar hyn o bryd fel nad yw'n glir a fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny. Byddwn yn eich diweddaru chi i gyd wrth i bethau symud ymlaen.
Os hoffech gael rhestr o ffilmiau argymelledig yn ystod eich cyfnod o hunan-ynysu, croeso i chi fy e-bostio ar gyfer fy argymhellion diweddaraf.
David Gillam
Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Un Byd WOW Cymru