Rydym yn cysylltu cymunedau Cymru â materion byd-eang drwy gyfrwng nerthol ffilm.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae cyllid cyhoeddus ar gyfer gwyliau ffilm yng Nghymru wedi dod yn fwyfwy cyfyngedig felly rydym yn apelio at ein cynulleidfaoedd am gefnogaeth.
Nid oes llawer o'r ffilmiau rydym yn eu dangos yn cael eu dosbarthu yn y DU, felly eich unig gyfle i'w gweld yw yng Ngŵyl Ffilm WOW. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu eu bod yn ddrutach i ni ddod â hwy i Gymru.
Bydd yr arian a godir drwy'r ymgyrch ariannu torfol hon yn mynd tuag at dalu'r ffioedd sgrinio ar gyfer gŵyl y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i allu cyflwyno i chi'r ystod o ffilmiau anturus, eclectig yr ydych wedi'u mwynhau dros y 18 mlynedd diwethaf.
Trwy haelioni un o'n cefnogwyr ffyddlon, caiff unrhyw rodd, waeth pa mor fach (neu fawr!) a roddir gennych, ei chyfateb, gan ddyblu gwerth eich rhodd i'r ŵyl.
Os hoffech chi roi rhodd, ewch at: https://www.gofundme.com/wow-film-festival-2020