Mae Emad yn athro Saesneg caredig ac ystyriol sydd hefyd yn perfformio mewn Death of A Salesman. Pan ymosodir ar ei wraig, Rana, yn eu fflat newydd, mae Emad yn benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl mewn modd hir ac araf, sydd yn anochel yn arwain at drasiedi. Wrth i faterion o gydwybod a phwysau cymdeithasol tynhau o gwmpas y set o gymeriadau cytbwys, try’r ffilm hon yn ddosbarth meistr mewn cwestiynu moesol cymhleth. Gan gynyddu’r tyndra’n gelfydd gyda naratif craff, mae Farhadi yn rhoi cyfle i’w gast penigamp greu myfyrdod dwys ar euogrwydd a chywilydd, ffydd a maddeuant.
“Farhadi's deliberate, dialogue-heavy drama allows for incredible work by his cast” Rogerebert.com
Enillydd Gwobr yr Actor Gorau a’r Sgript Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2016