Mae’n ymchwiliad diddorol tu hwnt o sut yr ydym yn creu stori am ein bywydau ni ein hunain - yn enwedig os ydych yn ymffrostgar a choegfalch fel y bardd mawreddog a’r enillydd Gwobr Nobel, Pablo Neruda. Yn Chile, ar ddiwedd y 1940au mae Neruda yn ffoi rhag llymder y llywodraeth. Mae Peluchonneau, y ditectif penderfynol sy’n ei ganlyn a Neruda yn ddau begwn mewn naratif sy’n ymblethu, y ddau yn benderfynol o greu eu mythau eu hun, un fel y ditectif arweiniol craff, y llall fel bardd rhamantaidd mawreddog ac arwr y bobl. Wedi ei chreu mewn modd celfydd gyda pherfformiad cynnil gwych gan Bernal a sgript, sionc, sylwgar, mae’r ffilm hon yn dipyn o hwyl.
“A playfully unexpected spin on a historical drama.” Wendy Ide, Sight & Sound
“a dizzying cinematic adventure filmed with playful virtuosity.” London Film Festival
Tymor Lleisiau Gwrthsafiad