25ain Chwefror - 13eg Mawrth
Incarnation
Cyfarwyddwr: Noboru Suzuki
Japan, 2021, 13 munud
Hen wraig ddirgel sy'n honni ei bod hi'n fampir 400 mlwydd oed, a twyllwr sy'n ceisio twyllo arian oddi wrthi. Beth fydd yn digwydd yn y diwedd? Drama ar ffurf ddeialog sy'n digwydd mewn siop goffi y tu allan i'r dref.
25ain Chwefror - 13eg Mawrth
Verdict 30.001: The Cookies
Cyfarwyddwr: Henna Välkky & Samuel Häkkinen
Y Ffindir, 2020, 9 munud
Mae oedolyn cyffredin yn gwneud tua 35 000 o benderfyniadau lled ymwybodol bob dydd. Mae canlyniadau penodol i bob penderfyniad - da a drwg. Hyd yn oed os ydyw jyst ynglŷn â bocs o gwcis.
25th February - 13th March
Hopes
Cyfarwyddwr: Raúl Monge
Sbaen 2019, 10 munud
Mae Hopes yn adrodd stori dau unigolyn digartref; merch fach a’i chydymaith sy’n gwisgo hwd. Maen nhw’n crwydro’r strydoedd yn chwilio am fwyd ac yn cardota. Dim ond pan ydynt yn dychwelyd i'r "cartref" y rydym yn darganfod bod eu perthynas yn seiliedig ar ddibyniaeth benodol iawn.
25ain Chwefror - 13eg Mawrth
Skickelsen
Cyfarwyddwr: Jonas Gramming
Sweden, 2017, 15 munud
Mae hen ddyn rhyfedd yn symud i mewn i'r fflat gwag drws nesaf i Sara. Sylweddolwn yn fuan mai nid bwriadau da sydd ganddo. Mae rhywun mewn trafferth. Mae rhywbeth gwael yn mynd i ddigwydd. Ond efallai nad yw pethau yn union fel y maen nhw’n ymddangos.