top of page
PWY YDYM NI

WOW yw’r unig ŵyl yn y DU sy’n dangos ffilmiau o Affrica, Asia ac America Ladin yn bennaf. Mae WOW yn tynnu sylw at ffilmiau syfrdanol sy'n procio’r meddwl o leoedd ni chewch eu gweld yn aml ar y sgrin.

 

Am 23 mlynedd rydym wedi dod ag ystod eang o'r ffilmiau rhyngwladol gorau oll i sinemâu ledled Cymru.

Trwy sgrinio ar-lein mae WOW bellach yn cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth ledled y DU gan roi’r unig gyfle i’r rheiny sy’n frwd am ffilmiau weld teitlau sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn gwyliau ledled y byd.

WOW.png

"The accessibility and diverse range of storytelling - discovering my new
favourite film of the year which I otherwise wouldn’t
have heard of, 
let alone seen!"

 

"As usually it is the high quality of the films...
I find the films 
at WOW festival really deep, eye-opening and
a great opportunity for 
reflection."

 

"The variety of films, the ability to book in advance. The whole thing was
incredibly well organised with some fantastic films. The opportunity 
to donate or not meant those suffering from low income could participate."

CYFARFOD Y TÎM

Wedi'i geni yng Ngorllewin Cymru, gadawodd Rhowan Alleyne yn 18 oed i astudio Japaneeg a Hanes Celf ac Archeoleg yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd yn Llundain. Mae hi'n mwynhau dod o hyd i ffilmiau personol, mynegiannol a gweledol trawiadol sy'n ehangu ein meddyliau a gorwelion.

IMG_20210715_192755_edited.jpg
IMG_5886_edited.jpg

Sefydlodd David Gillam, sy’n rhaglennydd ffilm llawrydd ers deng mlynedd ar hugain, Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un yn 2001. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr artistig arni ers hynny. Rhwng 2003 a 2013 roedd David hefyd yn gyfarwyddwr cyntaf Gŵyl Ffilm Borderlines a dyfodd i fod yn ŵyl ffilm wledig fwyaf y DU o dan ei arweinyddiaeth ef.

Gadawodd Annita Nitsaidou Wlad Roeg a'i chefndir amlddiwylliannol hi i astudio Ffilm, Arddangos a Gwaith Curadur yng Nghaeredin. Mae’n hoff o ffilmiau a’r anhysbys, a does dim mae hi’n ei garu’n fwy na theithio o amgylch y byd (a thu hwnt) drwy sinema’r byd.

1518740850420_edited.jpg
nia face.png

Mae Nia Edwards-Behi wedi’i hymdrochi yn niwylliant ffilm Cymru ers dros 
15 mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn, ac angerdd dros, y celfyddydau a’r 
cyfryngau yn ehangach. Gyda phrofiad mewn rhaglennu, marchnata, 
ysgrifennu a siarad cyhoeddus, trwy gydol ei gyrfa mae Nia wedi arbenigo 
mewn materion cynrychiolaeth, cynhwysiant a mynediad.

WOW.png

"The diversity of films, earth/women/indigenous people - it was like travelling the world from our armchairs...  free so easily accessible.”

 

"I never usually have time to get to film festivals. But with wow online, I really did feel like I'd had a fantastic cultured time."

 

"Hearing indigenous voices, hearing the sounds of different languages spoken, seeing different terrains from parts of the world I will never see but that my life here impacts upon. Humbling and sobering."

 

"Being able to watch them with my children at home at an affordable donation. I would never risk taking them to the cinema to see this kind of film as it's too expensive for me."

 

" ...the ease of the technical side was empowering."

Cynaliadwyedd

 

Credwn heb os nag oni bai ein bod yng nghanol argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Ac o ganlyniad, mae angen i ni i gyd newid ein ffordd o fyw, o weithio ac o fwynhau ein hunain er mwyn lleihau ein heffaith ar y blaned.

 

Ym mis Mawrth, aethom ati i ddadansoddi ein gŵyl ffilm ar-lein gyntaf. Roedd ôl troed carbon ein gŵyl ar-lein 97% yn is na’n gŵyl flaenorol ‘yn y sinema’. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i leihau’r effaith sy’n deillio o bobl yn gyrru i'r sinema. 

 

Gellir gweld yr adroddiad yma.

 

Y casgliad rhesymegol i hyn yw y dylid cynnal pob gŵyl yn y dyfodol ar-lein yn unig. Wrth gwrs, nid yw hwn yn benderfyniad hawdd i'w wneud i'r rhai ohonom sy'n mwynhau treulio amser gyda'n gilydd yn trafod ffilmiau.

 

Sut ydych chi ein cynulleidfa yn teimlo? A yw buddion cymdeithasol cyfarfod yn bersonol yn bwysicach nag effaith negyddol y milltiroedd sy'n cael eu gyrru er mwyn dod at ein gilydd?

 

A allwn ni drefnu polisi rhannu ceir effeithiol i leihau ein hôl troed carbon mewn modd dramatig?

 

Beth ydych chi'n ei awgrymu?

 

Rhowch eich barn mewn e-bost a’i anfon i dave@oneworldfilm.com

bottom of page